Prosiect Iaith a Threftdaeth Menter Iaith Sir y Fflint

Derbyniodd Menter Iaith Sir y Fflint gymeradwyaeth Partneriaeth Wledig Sir y Fflint a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Prosiect Iaith a Threftadaeth ar gyfer rhaglen Datblygu Wledig Sir y Fflint ym Mis Gorffennaf 2008. Ariannir y prosiect yn rhannol gan bartneriaid Fforwm Iaith Sirol y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Cronfa Amaethyddol Ewropeaid ar gyfer Datblygiad mewn Ardaloedd Wledig. Menter Iaith Sir y Fflint sydd yn gweithredu'r prosiect ar ran Fforwm Iaith Sirol.

Mae'r prosiect yn darparu Swyddog Iaith a Threftadaeth sydd yn datblygu a chynnal prosiectau penodol er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiwylliant ieithyddol Cymreig ac Eingl Cymreig Sir y Fflint i bobl leol ac ymwelwyr.

Dyma rhai gweithgareddau a threfnwyd gan Fenter Iaith sir y Fflint:

·         Sesiynau adrodd storiâu cymunedol.

·          Gweithdai treftadaeth a chelf.

·          Ymweliadau i amgueddfeydd lleol a lleoliadau diwylliedig.

·          Gweithdai cymunedol gan gynnwys gweithgareddau dawns a cherddorol.

·         Sesiynau ymwybyddiaeth ar iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Dyma rhai o'r weithgareddau a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint fel rhan o'r prosiect Iaith a Threftadaeth:

 

Murlun Crochenwaith Bwcle

Daeth griw o ddysgwyr Cymraeg brwdfrydig at ei gilydd i weithio gyda'r arlunydd cymunedol Mari Gwent i greu murlun yn seiliedig ar grochenwaith enwog Bwcle.
Roedd y gweithdai, a gynhaliwyd ar Ionawr 30ain a Chwefror 6ed a 13eg, a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint, yn gyfle i drigolion y sir i ddysgu mwy am hanes un o ddiwydiannau hynaf yr ardal, creu gwaith celf ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog.
Dywedodd Mari ei bod hi "Wedi mwynhau'r profiad yn fawr, roedd cyfuno creadigrwydd â sgwrsio'r dysgwyr yn broses ddiddorol iawn."
Dywedodd Rebecca Davies, Swyddog Iaith a Threftadaeth y Fenter, "Mae hwn wedi bod yn brosiect cyffrous iawn. Cafodd y dysgwyr gyfle i ddefnyddio eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol gan ddysgu geirfa newydd a dysgu dipyn am hanes a threftadaeth diwydiant lleol. Mae'r gwaith celf sydd wedi cael ei greu yn llwyr o papur, glud a phaent yn weth i'w weld. Mae'r gwaith mor effeithiol ei fod yn twyllo'r llygaid i feddwl mai crochenwaith go iawn ydyw!"

 

 

Sesiynau stori gyda Cath Aran

Ar Hydref 20fed a'r 21ain daeth y cyfarwydd Cath Aran, sy'n enwog yn genedlaethol i'r Wyddgrug i ddiddanu pobl Sir y Fflint gyda straeon a chwedlau traddodiadol Cymru.

Ar yr 20fed adroddodd Cath straeon Cymraeg i blant a rhieni ysgolion cynradd Bryn Coch a Glanrafon. Y diwrnod canlynol oedd tro disgyblion yr ysgolion uwchradd - Maes Garmon a'r Alun - i glywed ei dehongliad o chwedlau hynaf Cymru, sef stori Blodeuwedd.

Cafodd y dosbarthiadau hyn flas ar ei 'hochr dywyll' pan ddifodwyd y golau a chawsant glywed hanes geneth ifanc a chollodd ei phen ar ôl cyfarfod ysbryd mewn gwesty yn Y Rhyl!

Meddai Pete Bryon, Pennaeth Cymraeg Ysgol Alun "Wnaeth blwyddyn 10 mwynhau gwrando ar chwedl Blodeuwedd, a dw i'n siwr eu bod wrth eu boddau gyda'r stori arswyd hefyd; hyd yn oed os bydd rhaid iddynt gysgu gyda'r golau ymlaen am sbel!"

Gyda'r nos ar yr 20fed, ymgasglodd grwp o oedolion dewr yn Nhwr Nercwys i glywed Cath yn adrodd straeon arswyd o Ogledd Cymru. Clywsant hanes Gwrach Caerwys, chwedl y Marchog Du a'r Bluen Goch, helyntion Bryn yr Ellyllon, gwesty arswydus Rhyl; ac wrth gwrs, hanes Rheinallt ap Bleddyn ap Gruffudd, pwy, yn ôl pob sôn, grogodd Maer Caer yn yr un ystafell gwledda ple'r eisteddodd y grwp!

 

 

 

Spri-di-ri yn Ngronant

Ar Fedi'r 15fed 2009 cynhaliodd Canolfan Deuluoedd Gronant, Menter Iaith Sir y Fflint a Choleg Glannau Dyfrdwy brynhawn Spri-di-ri i'r Teulu i drigolion ardal Gronant, Talacre, Picton, Pen y Ffordd, Ffynnongroyw a Mostyn. Ymysg y gweithgareddau roedd peintio wyneb, peintio ewinedd, helfa drysor, carioci Rimbojam gyda Cadi a Dai, mascots newydd yr Urdd, celf a chrefft, modelu clai a sesiynau stori a chan Cymraeg. Roedd y gweithgareddau am ddim a roedd cyfle i ymaelodi ar y cwrs Cymraeg Hwyl i'r Teulu Coleg Glannau Dyfrdwy.

Yn Ionawr 2010 daeth y Fenter yn ôl i'r Canolfan i gynnal sesiynau 'crefft a chan' ddwy-ieithog ar gyfer plant oedran cyn-ysgol a'u rhieni.

 

 

Gweithdai Gwyllt

Yn ystod hanner tymor Hydref 2009 wnaeth Menter Iaith Sir y Fflint gweithio hefo cwmniau a chymdeithasau lleol i gynnal 'gweithdai gwyllt'trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn helpu plant yr ardal dysgu mwy am fyd natur. Ar ddydd Iau, Hydref 29fed roedd yna sesiwn Celf Wyllt ar gampws Llaneurgain o Goleg Glannau Dyfrdwy.  Gweithiodd y plant gyda'r arlunydd amgylcheddol, Tim Pugh i greu cerfluniau a lluniau allan o ddeunydd naturiol.

Ar ddydd Gwener, Hydref 30fed roedd yna "Gweithdy Goroesi yn y Gwyllt" gyda Forest School Sir y Fflint yn y coedwig ar Gampws Llaneurgain Coleg Glannau Dyfrdwy. Roedd cyfle i'r plant goginio ar dân, adeiladu ffau a dysgu sgiliau goroesi. Ar ddydd Sadwrn Hydref 31fed roedd yna taith gerdded i'r teulu trwy goedwig Chwitffordd. Arweinid y taith Coedwig Gwyllt gan Iwan Roberts o Gymdeithas Edward Llwyd.

 

 

 

Murlun Oakenholt

Trwy gydol Mis Mawrth 2009 gweithiodd yr arlunydd Cefyn Burgess gyda disgyblion Ysgol Croes Atti ac aelodau o'r gymuned i gynhyrchu croglun tecstiliau ar gyfer neuadd yr ysgol a fydd hefyd yn adlewyrchiad o ardal Fflint / Oakenholt. Nid yn unig yw gwaith Cefyn yn adnebyddus yma yng Nghymru a gweddill D.U ond hefyd mor bell a'r U.D.A lle mai ei arddull unigryw o ddefnyddio tecstiliau i greu murluniau yn werth i'w gweld.

 

Gweithdai pypedau

Ym mis Hydref 2008 wnaeth Cwmni Pypedau Cortyn ymweld ag Ysgolion Cynradd Cymraeg Sir y Fflint gan gynnwys Ysgol Terrig, Glanrafon, Croes Atti, Gwenffrwd a Mornant i gynnal gweithdai creu pypedau ar gyfer plant saith oed. Wnaeth Cwmni Cortyn yn hwyluso'r gweithdai er mwyn dehongli hanesion a chwedlau Cymru ar y thema "Arwyr Cymru". Roedd hyn yn gyfle i'r plant gael archwilio syniadau am eu hunaniaeth Gymraeg, hanes a'r iaith. Arddangoswyd y pypedau y bydd y plant wedi eu creu yn Oriel Clwyd Theatr Cymru ym Mis Rhagfyr.

 

 

Gweithdai ysgrifennu

Trwy'r prosiect Iaith a Threftadaeth mae Menter Iaith wedi cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol gydag awduron a beirdd Cymraeg, gan gynnwys: Mei Mac, Twm Morys, Sian Northey, Iwan Llwyd, Ifor ap Glyn a Noson gyda'r Taeogion.

 

 

Cynaladwyedd amgylcheddol

Mae Menter Iaith wedi'w ymrwymo i drefnu gweithgareddau sydd yn annog pobl i ail-gylchu ac adnewyddu, gan gynnwys Sioe Ffasiwn Santes Dwynwen, Gweithdai Celf Hwyl a Hanner a Murlun Crochenwaith Bwcle. Mae'r lluniau isod oll yn ddangos beth gallwch gwneud  gyda hen bapur a defnydd, sbwriel ac ychydig o ddychymig!

 

 

Cerddoriaeth

Fel rhan o'r Prosiect Iaith a Threftadaeth mae Menter Iaith yn trefnu gweithgareddau cerddorol fel Gwyl Rôc y Ffin, Gweithdai gyda Gwibdaith Hen Fran, Tegeingl (Gwyl y Werin Gudd) a nosweithiau blygeiniol.

 

 

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Rebecca Davies, ar 01352 744042 neu e-bost rebecca@menteriaithsiryfflint.co.uk

Dilynwch ni: http://www.mentrauiaith-gogledd.com/eng/fflint-newyddion.html ac ar Facebook a Twitter!